Julia AnnGRIFFITHS7 Mehefin, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty'r Galon a Brest, Lerpwl, ac o Delfryn, 24 Stryd y Faenol, Caernarfon, yn 74 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar John Hefin Griffiths, a mam gariadus Dilwyn ac Eleri; mam-yng-nghyfraith annwyl Anna a Siôn, nain arbennig a balch Enlli, Harri Wyn a Bela, a chwaer triw y diweddar Arwyn Hughes. Hefyd ffrind cyson i lawer, ffrind gorau Liz a Dick, a gwîr gymdoges i gymuned a thrigolion Stryd y Faenol, Caernarfon. Angladd brynhawn Gwener, 28 Mehefin, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn yr Amlosgfa ym Mangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Julia tuag at Robert Owen House Relatives Accommodation (Ysbyty Broadgreen, Lerpwl). Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates